AMDANOM NI
Mae Llun mewn ffram yn cynnig gwasanaeth fframio lluniau a hefyd yn hybu gwaith artistiaid yn yr oriel a’r gweithdy bach ond effeithiol ym Mhenygroes ger Caernarfon.

EIN HANES
Aled Griffiths gymerodd y camau cyntaf ym Mhwllheli dros 30 mlynedd yn ôl. Yna cymerodd Meical Roberts yr awenau yn 2002. Dros y blynyddoedd sefydlodd Meical fel Aled o'i flaen y busnes ar ymddiriedaeth ac ansawdd gwasanaeth, byddaf’i hefyd yn ymdrechu i gadw'r nodweddion hyn fel sylfaen i llun mewn ffram.
HEDDIW
Dechreuodd fy nhaith gyda llun mewn ffram ym mis Hydref 2024 ar ôl cyfnod dysgu 5 mis gyda Meic. Rhoddodd y 4 mis cyntaf gyfle i mi adnewyddu'r oriel ar gweithdy. Rhoddwyd prawf ar fy sgiliau fframio yn ystod cyfnod prysur iawn o 6 wythnos cyn y Nadolig, a rhoddodd Ionawr gyfle i mi ddod o hyd i stoc gyffrous ar gyfer yr oriel a datblygu'r wefan hon.
Wrth symud ymlaen rydym yn dymuno cynnal safon y gwasanaeth fframio ac archwilio ffyrdd newydd o hyrwyddo celf ar gyfer yr artistiaid hynny sydd am dreulio mwy o amser wrth yr îsl a llai wrth y cownter. Mae gan y Byd celf artistiaid ffres anhygoel yn curo'r drws ar hyn o bryd ac rydym yn croesawu'r rhai sy'n barod i ryddhau eu syniad nhw o gelf.

