top of page

Ein Partneriaid

Diolch

Mae'r Oriel Llun Mewn Ffrâm wedi bod yn rhan anatod o'r gymdeithas yma ym Mhenygroes ers dros 40 mlynedd ac rydym yn lwcus iawn i allu cydweithio efo sawl busnes/unigolyn/sefydliad ar sawl prosiect gwahanol. Heb y rhwydwaith yma, ni fyddai'r Oriel mor llwyddiannus, felly dyma rannu manylion y rhwydwaith hynny gan obeithio y byddwch yn eu cefnogi drwy ymweld â'u tudalennau nhw hefyd.

IMG_7306.jpg

Gwenno Till

Mae Gwenno Llwyd Till yn wneuthurwraig ffilm, ffotograffydd ac artist o Ogledd Cymru. Mae Gwenno'n arbenigo mewn adrodd straeon trwy ffilmiau byrion, fideos cerddoriaeth a ffotograffiaeth portread, gan archwilio themâu megis hiraeth, cymuned a pherthyn.

Rydym yn lwcus i fod wedi cael y cyfle i gydweithio efo Gwenno i adrodd stori Llun Mewn Ffrâm. Ewch i'w chyfrifon cyfryngau cymdeithasol i gael gwybod mwy am ei gwaith.

  • Instagram
  • Facebook
Untitled design (9).png

Gwasg Dwyfor

Mae Gwasg Dwyfor yn rhan allweddol o gymdeithas Penygroes ers blynyddoedd maith ac rydym yn falch iawn o gydweithio efo Karl ar ein holl anghenion argraffu.

"Bellach, yr oes ddigidol ydi hi. Un o fan-teision hyn yw ein bod fel busnes wedi gallu dechrau arbenigo mewn argraffu lluniau gan artistiaid a ffotograffwyr."

  • Instagram
  • Facebook
bottom of page