top of page

POLISI DOSBARTHU A DYCHWELYD

Gwasanaethau Fframio

 

Bydd Yr Oriel Llun Mewn Ffrâm yn rhoi blaenoriaeth i artistiaid sydd ac arddangosfeydd ar y gweill ac angen gwaith fframio wedi ei wneud erbyn dyddiad penodol. Byddwn hefyd yn blaenoriaethu gwaith sydd wedi ei archebu trwy’r wefan ar gyfer sicrhau ei fod ar gael ar gyfer y dyddiad a drefnwyd ofewn y ffenestr o 21diwrnod.

Mewn cyfnodau distawach byddwn yn gwneud pob ymdrech i fframio gwaith ar fur rybudd i gwsmeriaid sydd angen ffrâm ar gyfer achlysur arbennig. Gall hyn fod yn bosibl o fewn 48awr ar gyfnodau distaw ond cysylltwch i drafod.

Mae gwaith fframio cyffredinol i’r cyhoedd nad sydd a brys mawr amdano, ar y funud yn cael ei wneud ofewn 16 wythnos. Mae disgwyl ir ffenestr amser yma leihau yn ystod mis Ionawr a Chwefror. Gofynwn yn garedig i chi gysylltu cyn dod a gwaith i fewn, fel gallwn eich rhoi ar y rhestr aros a gadael i chi wybod pryd i ddod ar gwaith i fewn.


Byddwch yn derbyn e-bost neu neges gadarnhau pan fydd eich archeb yn barod i’w chasglu.

Celf a Prynwyd o’r Oriel


Archebion a wneir drwy’r wefan ar gael i’w casglu o’r siop yn unig. Nid ydym yn cynig opsiwn postio ffurfiol trwy'r wefan ar y funud, ond mae modd i chi gysylltu ar ebost neu neges destun i drefnu dosbarthu. Rydym yn cynig dosbarthu trwy Delsol, dosbarthu yn bersonol yn lleol neu gasglu o'r siop. 


Efallai y bydd angen trefniant arbennig ar gyfer gweithiau celf mawr neu fregus.

Amseroedd Casglu a Dosbarthu


Rydym yn anelu i gael archebion yn barod o fewn 14 diwrnod, ond nodwch y gall hyn gymryd hyd at 21 diwrnod gwaith mewn cyfnodau prysur neu ar gyfer archebion unigryw.


Nid ydym yn gyfrifol am unrhyw oedi a achosir gan ddarparwyr dosbarthu trydydd parti os bydd dosbarthu’n cael ei drefnu.

Archebion â Therfynau Amser


Os oes angen i chi gael eich eitem erbyn dyddiad penodol (er enghraifft ar gyfer digwyddiad neu anrheg), mae’n hollbwysig eich bod yn cysylltu â’r oriel cyn gwneud eich pryniant. Er ein bod yn anelu at gwblhau archebion o fewn 14 diwrnod, gall hyn gymryd mwy o amser yn ystod cyfnodau prysur. Bydd cysylltu ymlaen llaw yn ein helpu i gadarnhau a allwn gwrdd â’ch amserlen a threfnu’r gwasanaeth gorau posibl i chi.

Dychwelyd a Chyfnewid

  • Archebion Fframio: Caiff pob archeb fframio ei wneud yn ôl y gofyn, ac felly ni ellir eu dychwelyd oni bai bod y cynnyrch yn ddiffygiol.

  • Prints (heb fframio pwrpasol): Gellir dychwelyd o fewn14 diwrnod ar yr amod eu bod mewn cyflwr gwreiddiol.

  • Celf Gwreiddiol: Mae gwerthiant celf gwreiddiol yn derfynol oni bai fod yr eitem yn ddiffygiol. 

  • Eitemau Diffygiol: Os yw’ch eitem wedi’i difrodi, yn ddiffygiol neu ddim fel y disgrifiwyd, cysylltwch â ni o fewn 14 diwrnod i drefnu  ei gyfnewidnneu ad-daliad llawn (gan gynnwys unrhyw gostau dosbarthu perthnasol).

 

Sut i Ddychwelyd Eitem


Cysylltwch â ni drwy e-bost i drefnu dychwelyd.
Dylai’r eitem gael ei phecynnu’n ddiogel, yn ddelfrydol yn y pecynnu gwreiddiol.
Chi sy’n gyfrifol am gostau cludo yn ôl oni bai bod yr eitem yn ddiffygiol neu’n anghywir.

Ad-daliadau


Caiff ad-daliadau eu prosesu o fewn 14 diwrnod o dderbyn yr eitem wedi’i dychwelyd.
Bydd ad-daliadau’n cael eu rhoi i’r dull talu gwreiddiol.

Cysylltu gyda ni


Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau am gasglu, dosbarthu neu ddychwelyd:
E-bost: ag.hughes06@gmail.com
Ffôn: Aaron - 07880359878 | Gwenan: 07824905072

bottom of page