top of page

TELERAU GWASANAETH

Rydym yn gwerthu celf gwreiddiol a phrints gan artistiaid Cymreig ac yn cynnig gwasanaeth fframio pwrpasol.

Gall lliwiau a gorffeniadau edrych ychydig yn wahanol o gymharu â lluniau ar-lein.

Mae pob ffrâm yn cael ei gwneud yn arbennig, felly dewisiwch yn ofalus cyn i ni ddechrau ar y gwaith.

Argaeledd Celf


Er ein bod yn ceisio cadw’r wefan mor gyfredol â phosibl, mae’n bosibl mewn sefyllfaoedd prin y bydd gwaith celf hefyd ar werth mewn lleoliadau eraill. Os bydd eitem wedi’i gwerthu cyn diweddaru’r wefan, byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted â phosibl ac yn trefnu ad-daliad llawn.

Prisiau


Rydym yn gwneud pob ymdrech i sicrhau bod ein prisiau’n gywir. Fodd bynnag, mewn achosion prin lle mae gwall sylweddol wedi digwydd wrth nodi pris ar y wefan, ni fydd yr eitem yn cael ei werthu am y pris anghywir. Yn hytrach, byddwn yn cysylltu â chi ac yn trefnu ad-daliad llawn.

Archebion a Thaliadau

Gellir gwneud archebion yn bersonol, dros y ffôn, neu ar-lein drwy ein gwefan.

Mae angen talu wrth brynu, neu cyn casglu eich gwaith wedi’i fframio.

Rydym yn derbyn arian parod, taliadau cerdyn, Apple Pay, PayPal a throsglwyddiad banc.

Casglu a Dosbarthu

Mae pob archeb a wneir drwy’r wefan ar gael i’w chasglu o’r siop yn unig. Nid yw opsiynau dosbarthu ar gael ar-lein ar hyn o bryd.

Fodd bynnag, os hoffech drefnu dosbarthiad, mae croeso i chi gysylltu’n uniongyrchol â’r oriel i drafod argaeledd a chostau.

Byddwn yn rhoi gwybod i chi pan fydd eich archeb yn barod. Cewch drefnu i gasglu eich celf yn dilyn cadarnhad ei fod yn barod, mewn amser syn gyfleus i chi.

Archebion â Therfynau Amser

Os oes angen i chi gael eich eitem erbyn dyddiad penodol (er enghraifft ar gyfer digwyddiad neu anrheg), mae’n bwysig iawn eich bod yn cysylltu â’r oriel cyn gwneud eich pryniant. Rydym yn anelu at gwblhau archebion o fewn 14 diwrnod, ond gall gymryd yn hirach mewn cyfnodau prysur neu ar gyfer prosiectau mwy cymhleth.

Canslo ac Ad-daliadau

Mae pob gwerthiant celf gwreiddiol yn derfynol, oni bai fod yr eitem yn ddiffygiol neu wedi’i difrodi adeg y pryniant.

Gellir dychwelyd prints o fewn 14 diwrnod o'r diwrnod prynu ond mae'n rhaid eu dychwelyd yn union yr un cyflwr a'u prynwyd.

Ni ellir canslo nac ad-dalu archebion fframio unwaith y bydd y gwaith wedi dechrau, gan eu bod yn unigryw.

Gofalu am Eich Celf

Rydym yn gofalu’n arbennig am bob eitem sy’n cael ei gadael gyda ni i’w fframio.

Nid ydym yn gyfrifol am unrhyw ddifrod a oedd yn bodoli eisoes, nac am amgylchiadau y tu allan i’n rheolaeth.

Eich Preifatrwydd

Dim ond y manylion personol sydd eu hangen (fel eich enw a’ch manylion cyswllt) yr ydym yn eu casglu i gwblhau’ch archeb.

Ni fyddwn yn rhannu’ch gwybodaeth â neb arall.

Cwestiynau?

Os hoffech wybod mwy, cysylltwch â ni:

Yr Oriel Llun Mewn Ffrâm
Snowdon St, Penygroes, Caernarfon LL54 6NG
ag.hughes06@gmail.com

bottom of page