Fy nghelf
Ysbrydolir gwaith Aneurin gan y tirwedd o gylch ei gartref yn Llansannan. Dyma ardal ei fagwriaeth, ardal o fryniau tawel amaethyddol sy'n toddi i mewn i fynydd-dir Hiraethog. Ar y gorwel mae Eryri i'r gorllewin a'r goleuni dros fawnogydd Hiraethog yn symud yn gyflym ac ay creu eiliadau gwefreiddiol. Ceisio dal yr eiliadau o oleuni yma a wna Aneurin gan ddefnydio palet tywyll yn aml ond gyda dyfnderlliw yn y tywyll er mwyn chwyddo effaith yr ardaloedd golauyn y tirlun.
Ceir sawl esiampl yn ei waith hefyd o fynyddoedd Eryri yn eu mawredd hagr a bydd y cyfrwng o baent trwm yn cyfleuawgrym o bwysau'r mynyddoedd a'r serthedd sydd yn yceunentydd nodweddiadol.
Sylwch hefyd ar y defnydd o oleuni'r lleuad a'r haul sydd yn y rhan fwyaf o'i waith. Mae'n cynnwys tarddiad y goleuni ynfwriadol gan fod hyn yn cydio awyr a daear, awyr a llynoedda nentydd a'r awyr a'r gofod tawel y tu hwnt i'r hyn a welir. Mae elfen ysbrydol cryf felly yn ei waith sy'n cyfleu eiliadau prin y goleuni, tarddiad a chyswllt y goleuni a dirgelwch yr eiliad nesaf - pan ddaw honno.
Thema sy'n cydio'r dirgelwch yma a thirwedd Cymru yw ei gyfres ar feini a chromlechi hynafol gorllewin Cymru. Gesyd y cerrig rhyfeddol hyn yn eu tirwedd gan gyfleu eu perthynasa'n hanes fel cenedl a'n cof fel dynoliaeth.
Cafodd Aneurin ei eni yng ngogledd dwyrain yr India arfryniau Mizoram a bu'n ymwelydd cyson a'r ardal honno ond ym Mro Hiraethog y mae ei wreiddiau a gwreiddiau ei deulu.







