Fy nghelf
Rwyf yn ddylunydd tecstiliau o Ogledd Cymru. Daw yr ysbrydolaeth gan fy amgylchedd, hanes a diwidiant ffermio. Graddiais o Brifysol Manceinion yn 2007 ar ôl astudio tecstiliau gan arbenigo mewn gwehyddu.
Mae fy ngwaith peintio yn fan cychwyn i’r cynllunio tecstiliau. Porthladdoedd Cymru sydd yn fy nghyffroi oherwydd y lliwiau, prysurdeb ac yn dod a atgofion o fy mhlentyndod i fynd i dalu rhent ein fferm i stâd y Penrhyn a prynu pysgod i swper gyda fy Mam. Ers enill y wobr ‘Young Marine Artist’ yn Y Mall Galleries yn Llundain rwyf wedi arddangos mewn sawl oriel ar draws Cymru.
Byddaf yn peintio ar ddarnau mawr o bapur gan ei fod yn rhoi’r rhyddid i mi weithio’n rhydd ac arbrofi a lliwiau sydd yn dangos fy angerdd tuag at liw a gwead. Mae hyn yn amlwg drwy fy ngwaith peintio a fy nyluniadau tecstiliau. Byddaf yn aml yn ychwanegu pwyth i fy mheintiadau er mwyn ychwanegu gwead i’r peintiad.
Byddaf yn dylunio fy ngarthenni yn yr un broses. Drwy arlunio a pheintio mae’n galluogi i mi ddychmygu fy mhatrymau fel carthen.
Mae fy stiwdio yn edrych i gyfeiriad Eryri ble mae fy’n ysbrydoliaeth yn deillio o ddyluniad i gynhyrchiad. Fel teulu rydym yn un o’r teuluoedd hynaf sydd yn dal yn gweithredu yn y byd amaeth yn ardal Dyffryn Ogwen. Mae fy neunyddiau wedi cael eu hysbrydoli gan draddodiadau ffermio ac yn dogfennu hanes a’r traddodiadau hynny.
Mae’r patrymau a welwch ar y carthenni yn gofnodion o nodau clustiau Ffermydd Dyffryn Ogwen. Nôd yw toriad unigryw i bob fferm unigol. Dim ond ffermydd sydd a hawl i bori ar y mynydd sydd a nôd. Mae’r nodau clust yn galluogi y ffermwyr adnabod eu defaid pan bydden yn hel a didoli eu stoc oddi ar borfa mynydd.
Yn ddiweddar rwyf newydd lawnsio carthenni newydd sydd wedi eu ysbrydoli gan graffeg ar hen poteli llaeth. Roedd gan fy Nhaid rownd laeth o amgylch Bethesda felly es ati i ymchwilio a defnyddio graffeg oddi ar hen poteli gwydr yr oedd gan fferwmyr yr ardal. Cefais fy magu ar fferm odro ger Bangor felly mae’r cysylltiad yn hynod o bwysig i mi fel dylunydd tecstiliau.
Mae fy ngharthenni yn adlewyrchu ac yn adrodd hanes.

![amgueddfa[14].png](https://static.wixstatic.com/media/35019f_517d66b402c840529c513352e39018d3~mv2.png/v1/fill/w_299,h_398,al_c,q_85,usm_0.66_1.00_0.01,enc_avif,quality_auto/35019f_517d66b402c840529c513352e39018d3~mv2.png)




