top of page
Fy nghelf
Un o Abertawe ydw i’n wreiddiol, ac mae’r elfen greadigol wedi bod ynof erioed. Fe’m hyfforddwyd yn y celfyddydau gweledol yng ngholegau celf Abertawe a Chaerdydd. Er i mi dreulio degawd fel athrawes gelf, a degawd arall yn swyddog addysg yn Amgueddfa Cymru, roedd bod yn artist llawn amser yn rhywbeth na allwn ei ohirio mwyach. Er fy mod i’n paentio ambell i bortread, tirwedd ac arfordir Cymru yw’r ddau brif cymhelliad yn fy ngwaith celf sy’n digwydd yn y stiwdio yn Aberteifi. Wrth i’r blynyddoedd basio mae’r arddull yn ymryddhau ac yn fwy arbrofol.




1/1
bottom of page





