top of page
IMG_8158.jpeg

Meirion Jones

Ganwyd Meirion Jones yn Nyfed, a mynychodd Goleg Celf Dyfed a Phrifysgol Cymru. Aeth i'r proffesiwn addysgu am ddegawd nes iddo benderfynu canolbwyntio ar ei gelf yn llawn amser yn 2002. Mae llawer o waith Meirion wedi'i ysbrydoli'n fawr gan Gymru.

Fy nghelf

Mae fy ngwaith yn ymwneud â phobl a'r tir.​ Ac mae edrych am batrymau a ffurfiau yn y ddaearyddiaeth yn apelio'n fawr ataf ynghyd ag awgrymu straeon yn y lluniau o bobl. Er i mi arddangos fy ngwaith dros y ffin, mae'n llawer gwell gennyf gysylltu ar lefel artistig gydag eneidiau hoff gytun.

Does dim patrwm i fy nghreadigrwydd, a dw i'n hoffi meddwl bod yr elfen fympwyol yma yn rhoi ffresni i'r gwaith.


 

Manylion Cyswllt

  • Instagram
bottom of page