
Stephen John Owen
Ganwyd Stephen John Owen yng Nghaernarfon ac mae bellach yn byw ac yn gweithio yn y Groeslon. Mae'n arlunydd hunanddysgedig ac mae ei fagwraeth wedi dylanwadu'n fawr ar ei waith.
Fy nghelf
Wedi ei fagu yng Nghaernarfon ac ym Môn, mae ei fagwraeth wedi dylanwadu'n fawr ar ei waith. Yn blentyn, treuliodd lawer o wyliau'r ysgol ar yr Ynys yng nghartref ei Nain.
Yn y blynyddoedd diweddarach, fel dyn ifanc bu'r delweddau trefol o Gaernarfon yn ddylanwad mawr ac fe'u mynegir yn glir yn ei waith celf. Roedd yn mwynhau celf fel pwnc yn yr ysgol a chafodd ei ddylanwadu a’i annog i beintio gan ei athro celf William Selwyn.
Mae gan Stephen ei arddull unigryw ei hun o beintio. Mae ei angerdd yn parhau i esblygu a datblygu ac mae’n chwilio’n barhaus am ysbrydoliaeth o’i amgylchoedd. Ei destun, a’i ysbrydoliaeth erioed yw’r tirwedd a’r amgylchedd wledig o’i amgylch. Mae’n dal cymeriad arbennig y pentrefi, y ffermydd a’r hen fythynnod chwarelwyr sydd wedi ei amgylchynu ar hyd ei oes yn syml ac yn ddidwyll. Mae'n arwisgo'r golygfeydd cyfarwydd gydag urddas a dynoliaeth.







