top of page
PHOTO-2025-06-16-10-47-10 5.jpg

William Selwyn

Ganed William Selwyn yng Nghaernarfon ym 1933. Ym 1954, ar ôl treulio dwy flynedd o Wasanaeth Cenedlaethol gyda’r Royal Artillery, astudiodd yn Y Coleg Normal, Bangor tan 1956. Wedi hynny bu’n athro yn Ysgol Iau Maesincla ac Ysgol Syr Hugh Owen, Caernarfon hyd ei ymddeoliad ym 1990. 

Fy nghelf

Canolbwynt ei waith celf yw tirlun Gwynedd – ei gweithwyr fferm a’i physgotwyr. Mae’n aelod o Academi Frenhinol Cambrian, ac ennillydd yr 11eg Arddangosfa Singer a Freiedlander /Sunday Times ym 1988 am ei ddyfrliw o Fwlch Llanberis, ac hefyd Arlunydd Cymreig y Flwyddyn 2001. Enillydd Hyd a Lledrith Llyn 2003.

Mae Cyngor Gwynedd a Cyngor Ynys Mon, yngyd a Phrifysgol Cymru Bangor, Cyngor y Celfyddydau, Prifysgol Bath, a Llyfrgell Genedlaethol Cymru i gyd yn berchen ar ei luniau – ac felly’n wir mewn nifer o gasgliadau preifat yng Nghymru a thramor. 

Mae wedi arddangos yn eang – yn yr Academi Frenhinol Cambrian, Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Academi Brenhinol Gorllewin Lloegr, Cymdeithas Frenhinol Artistiaid Prydeinig, Oriel Tegfryn ym Mhorthaethwy, Yr Albany Gallery yn Nghaerdydd, Oriel Tibb Lane ym Manceinion, Oriel Plas Glyn y Weddw yn Llanbedrog, Oriel John Davies yn Stow-on-the-Wold, Y Mynydd Gwefru yn Llanberis, Oriel Arfon yng Nghaernarfon ac Oriel Thackery, Llundain.

bottom of page