top of page
image0.jpeg

Sioned Glyn

Mae Sioned yn artist sy'n wreiddiol o Gaerdydd ond yn byw yng Ngwynedd ers dros 40 mlynedd. 

  • Facebook
  • Instagram

Fy nghelf

Fy enw i yw Sioned Glyn. Rwy'n byw ym Mangor. Cefais fy ngeni yn Gorseinon a fy magu yng Nghaerdydd. Dwi'n byw yng Ngwynedd ers dros 40 o flynyddoedd. Dwin ymddiddori mewn bob math o gelf gwahanol yn enwedig Caligraffi Celtaidd. Dwi hefyd yn ymddiddori mewn cofnodi enwau llefydd yng Nghymru. Credaf  yn gryf ei fod yn bwysig i ni gofio enwau gwreiddiol ein trefi, mynyddoedd ac afonydd  ein gwlad.

Rwyf wedi gweithio ar nifer o gyfresi gwahanol dros y blynyddoedd, i enwi rhai … Geiriau i gydymdeimlo, Dywediadau Cymreig, Llwybr Arfordir Cymru, Mynyddoedd Cymru, Trefi a Phentrefi. Yn ogystal â hyn dwi wedi mapio 32 o ardaloedd a siroedd Cymru gan orffen gydag un map mawr o Gymru gyfan. Ers blynyddoedd lawer yr wyf wedi derbyn amrywiol gomisiynau i greu gweithiau gogyfer a phob math o achlysuron.  Fy mhrif ysbrydoliaeth yw fy Ngwlad a'i thirlun.

Manylion Cyswllt

  • Facebook
  • Instagram
bottom of page