
Gethin Roberts
Rwy’n ffotograffydd angerddol gyda chysylltiad dwfn â byd natur, yn enwedig o ran gweithio gyda golau i ddal yr harddwch syfrdanol o’n cwmpas.
Fy lluniau
Fel dyn camera teledu yn teithio’r byd i ffilmio rhaglenni dogfen, mae gen i’r cyfle unigryw i archwilio tirweddau amrywiol, ond ym mynyddoedd Cymru mae fy ngwir ddihangfa greadigol.
Ar ddyddiau pan nad wyf yn gweithio, rwyf wrth fy modd yn mentro i dir garw Cymru, gan ymgolli yn ei llonyddwch a’i thlysni. Gyda fy nghamera, rwy'n ceisio dal enaid natur trwy ei golau, gweadau a thirweddau sy'n newid yn barhaus. Mae pob llun yn foment o fyfyrio, yn gysylltiad agos â'r amgylchedd rwy'n ei drysori, ac â chof a gwraidd ac enaid y wlad rwy'n byw ynddi.
P’un a ydw i’n tynnu lluniau o olygfeydd mynyddig ysgubol, dyffrynnoedd llawn niwl, neu lewyrch cynnil codiad haul, fy nod yw rhoi llwyfan i'r ddaear wyrthiol hon, gan ddod â harddwch amrwd natur i ffocws i eraill gael ei werthfawrogi, a'i ddiogelu gobeithio i'r cenedlaethau sydd i ddod.
Manylion Cyswllt
Dyma gyfle i rannu manylion cyswllt uniongyrchol i'r artist os yn berthnasol.
















